Mae newyddiadurwr amaeth blaenllaw wedi dweud wrth ffermwyr y dylai eu sgiliau cyfathrebu fod yn rhan annatod o’u gwaith yn portreadu gwedd bositif ar y diwydiant i’r cyhoedd.

Roedd Emma Penny, golygydd papur newydd y Farmers Guardian, yn annerch Cynhadledd Flynyddol NFU Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

“Ym myd amaeth, rydyn ni’n wynebu sawl her – fel y tywydd, materion gwleidyddol, a phobol sydd, yn aml,  ddim yn malio neu ddim yn gwybod am yr hyn ydyn ni’n wneud.

“Y ffaith yw, mae ffermwyr yn cynhyrchu un o’r tri phrif beth y mae pawb ei angen – bwyd. Y ddau arall ydi dwr a lle i fyw…

“Mae angen i chi fod yn gwerthu yr hyn ydych chi, ac yn gwerthu amaethu fel gyrfa o werth,” meddai Emma Penny wedyn.

“Mae’n bwysig eich bod chi’n gwerthu Cymru a diwydiant amaeth Cymru trwy frandio… Mae gyda chi wlad brydferth, felly dangoswch falchder yn y diwydiant, yn y broses o gynhyrchu bwyd, ac yn y ffaith eich bod chi’n gwneud hyn tra’n cynnal ac yn gofalu am yr amgylchedd.”