Os yw prif reilffordd gogledd Cymru i gael ei thrydaneiddio, yna mae’n rhaid i wleidyddion, pobol fusnes a chynghorau lleol ymgyrchu tros hynny.

Dyna ddywed Ysgrifennydd Cymru, David Jones, am y prosiect a allai gostio £300m i’w gwblhau, yn ogystal â chreu swyddi yng ngogledd Cymru.

“Mae’n fuddsoddiad sylweddol, p’un bynnag ffordd chi’n edrych ar y mater,” meddai David Jones mewn cyfweliad teledu ddoe, cyn datgan ei fod yn “agored” i ddadleuon o blaid trydaneiddio’r rheilffordd.

“… Mae’n rhaid i ni ddarbwyllo Network Rail, mae’n rhaid i ni ddarbwyllo’r Adran Drafnidiaeth, fod hwn yn fuddsoddiad da – a dyna pam mae’n rhaid dechrau arni yn gynt yn hytrach na hwyrach.”

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud y bydd hi’n trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe, yn ogystal â gwasanaeth cymudwyr Cymoedd y de.