Catherine Gowing
Mae gweddillion dynol y cafwyd hyd iddynt mewn pwll yr wythnos ddiwethaf wedi cael eu hadnabod fel corff y milfeddyg Catherine Gowing.

Cafodd y milfeddyg 37 oed, a oedd yn wreiddiol o Swydd Offaly yn Iwerddon, ei gweld ddiwethaf nos Wener 12 Hydref mewn archfarchnad gerllaw ei chartref yn New Brighton, Sir y Fflint.

Mae Clive Sharp, 46 oed, sydd heb unrhyw gyfeiriad sefydlog, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio, ac wedi cael ei gadw yn y ddalfa tan 7 Ionawr.

Cafwyd hyd i’r gweddillion mewn pwll bas mewn cae yn Sealand, Glannau Dyfrdwy.

Profion yn cadarnhau

Meddai’r Ditectif Brif Arolygwr Mark Pierce o Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae’r post mortem wedi cadarnhau ein hofnau ac mae’r canlyniadau wedi cael eu rhoi i deulu Catherine.

“Rydym hefyd yn disgwyl canlyniadau profion ar weddillion eraill y cafwyd hyd iddyn nhw ar afon Dyfrdwy yn Ferry Lane, Higher Ferry, Caer, ddydd Gwener. Mae’r chwilio’n parhau am ragor o weddilion ac unrhyw dystiolaeth a fydd yn ein helpu’r ymchwiliad hwn.”

Ychwanegodd fod yr heddlu’n dal i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd gar Catherine Gowing, Renault Clio â rhif cofrestru o Iwerddon, 00 D 9970, neu Volvo S40 du Clive Sharp â’r rhif AG58 JHE ers dydd Gwener 12 Hydref, yn enwedig yn ardal Sealand.

“Hoffwn glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw weithgaredd amheus mewn caeau yn ardal Manor Road o Sealand i gysylltu â’r heddlu ar 101.”