Castell Newydd Emlyn
Mae côr sydd wedi cipio’r brif wobr yn y Genedlaethol chwech o weithiau ers 2002, yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed.

Nos yfory bydd Cywair yn dathlu gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.  Fe wnaeth y côr gystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.  Yn ymuno yn y dathlu gyda Cywair bydd Bois Ceredigion sef un arall o gorau llwyddiannus Islwyn Evans a’r bariton Gwyn Morris a wnaeth ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Wrecsam 2011.

Cefndir y côr

Ers ei sefydlu mae Cywair wedi datblygu yn un o gorau amlycaf Cymru.

Mae’r côr cymysg siambr wedi’I leoli yng Nghastell Newydd Emlyn dan y Cyfarwyddwr Cerdd Islwyn Evans.

Cywair wnaeth ennill cystadleuaeth Côr Cymru yn 2007 a 2011, ac maen nhw wedi  bod yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol chwech o weithiau, 2002 -2004, 2008 -2010.

Yn 2004 fe wnaethon nhw gipio y Fleischmann International Trophy yng Nghystadleueth  Gorawl Ryngwladol Corc yn yr Iwerddon, ac yn 2005 nhw gafodd y teitl ‘Côr y Byd ‘ yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a nhw oedd y côr cyntaf i dderbyn Tlws Pavarotti.

Mae’r côr wedi cynnal sawl cyngerdd llwyddiannus yn yr Iwerddon ac ym mis Awst eleni cafwyd taith i Hwngari a chael budugoliaeth yng Ngŵyl Gorawl Cantemus.