Wrth i bwyllgor brys Llywodraeth Prydain gyfarfod i drafod y bygythiad i goed ynn, fe ddaeth yn amlwg fod rhagor o fygythiadau i ragor o goed yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad papur newydd, mae o leia’ ddau afiechyd arall wedi  arwain at weithredu brys gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy’n dweud bod coed yn wynebu “bygythiad heb ei debyg oherwydd pla ac afiechyd”.

Mae llawer o’r rheiny’n cael eu hachosi gan fewnforio planhigion o wledydd eraill, fel yn achos y ffwng sy’n lladd coed ynn ac sydd wedi ei ffeindio mewn coed yn nwyrain Lloegr. Mae 100,000 o goed wedi eu cwympo yno er mwyn ceisio atal y broblem.

  • Yn ôl y Guardian, mae llawer mwy na hynny o goed llarwydd – neu lartsh – wedi cael eu torri yng Nghymru, yr Alban a gorllewin Lloegr er mwyn atal afiechyd coed sy’n gallu lladd coed derw.
  • Clefyd arall yng Nghymru yw malltod nodwyddau sy’n gallu effeithio ar sawl math o goed bythwyrdd.

Yn ôl dyfyniad gan lefarydd o adran ymchwil y Comisiwn Coedwigaeth, mae cymaint ag wyth gwahanol fygythiad difrifol i goed yng ngwledydd Prydain – mwy o fewn y deng mlynedd diwetha’ nag mewn hanner canrif cyn hynny.”