Doedd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru ymhlith y 53 a wrthryfelodd yn y bleidlais ar gyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ;r Cyffredin neithiwr.

Gyda help y Blaid Lafur, llwyddodd y gwrthryfelwyr i orchfygu’r Llywodraeth ar ei chynnig i rewi’r gyllideb mewn termau real.

Roedd pob un o ASau Ceidwadol Cymru wedi pleidleisio dros y Llywodraeth, ac eithrio Glyn Davies, AS  Maldwyn, nad oedd yn gallu bod yno.

Fe wnaeth y ddau o Aelodau Seneddol Plaid Cymru a oedd yn bresennol yn y ddadl, Hywel Williams a Jonathan Edwards, hefyd bleidleisio dros y Llywodraeth.

Wrth esbonio pam iddyn nhw gefnogi’r Llywdraeth, meddai Jonathan Edwards AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Fe wnaethon ni benderfynu peidio â chefnogi’r Ceidwadwyr Ewrosgeptig asgell dde gwallgof neithiwr gan fod Cymru’n derbyn symiau mawr o arian gan yr Undeb Ewropeaidd.

“Ry’n ni’n rhyfeddu at Aelodau Seneddol Llafur sy’n cynrychioli cymunedau sy’n derbyn y symiau uchaf o arian cronfeydd strwythurol yn pleidleisio dros leihau’r arian sy’n cael ei fuddsoddi yn eu cymunedau.”

Fe wnaeth partneriaid seneddol Plaid Cymru, yr SNP, ar y llaw arall, bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.