Chris Bryant
Mae hen ffrae rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron a’r Aelod Seneddol Llafur, Chris Bryant yn y Senedd wedi dod i’r wyneb unwaith eto.

Mae David Cameron wedi dweud ei fod yn aros am ymddiheuriad gan Aelod Seneddol y Rhondda, wedi iddo ei gyhuddo o guddio gwybodaeth yn ystod ymchwiliad Leveson i ymddygiad y wasg.

Bythefnos yn ôl, gwrthododd David Cameron ateb cwestiwn am ei gyswllt gyda chyn-Brif Weithredwr News International, Rebekah Brooks.

Dywedodd y Prif Weinidog na fyddai’n ateb y cwestiwn am nad oedd Chris Bryant wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth amdano mewn perthynas ag ymchwiliad Leveson.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, tynnodd Chris Bryant sylw at yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague am ddisgwyl i weinidogion ateb cwestiynau sy’n cael eu cyflwyno.

Awgrymodd Chris Bryant: “Felly, mae yna bentwr o e-byst sy’n creu embaras, felly, on’d oes?

“Roedd yn rhaid i Adam Smith gyhoeddi pob un o’i e-byst e ac fe fu’n rhaid iddo fe ymddiswyddo. Pam na wnewch chi gyhoeddi pob un o’ch e-byst chi?

“A allwch chi fod yn ddyn addas a chywir i farnu ar ddyfodol rheoleiddio’r wasg os na fyddwch chi’n onest gyda’r cyhoedd Prydeinig?”

Atebodd David Cameron drwy ddweud bod disgwyl i rywun sy’n beirniadu unigolyn arall ymddiheuro, a’i fod yn dal i aros am ymddiheuriad gan Chris Bryant am ei sylwadau blaenorol.

Ychwanegodd: “Y gwir ydy bod y Llywodraeth hon wedi sefydlu Ymchwiliad Leveson ac fe wnes i roi’r holl wybodaeth y gofynnodd Leveson amdani i’r ymchwiliad hwnnw.”

Galwodd David Cameron am reolau llym ar gyfer y wasg a’r cyfryngau, ac am gyflwyno dirwyon a system ymchwilio i ymddygiad newyddiadurwyr.