Catherine Gowing
Dywed Heddlu’r Gogledd bod y  chwilio’n parhau am filfeddyg o Sir y Fflint a ddiflannodd ar 12 Hydref.

Mae’r heddlu’n  canolbwyntio eu hymdrechion ar y chwarel a’r coetiroedd cyfagos ger Alltami lle cafwyd hyd i gar Catherine Gowing, 37, ar 18 Hydref.

Dywedodd y Rhingyll Neal Parkes, un o ymgynghorwyr y tîm chwilio: “Mae’r gwaith chwilio yn parhau a heddiw mae’r timau’n canolbwyntio eu hymdrechion ar goetiroedd yn rhan ddeheuol yr ardal.

“Mae’r dirwedd yn anodd iawn i’w chwilio gydag isdyfiant trwchus a rhai rhannau corsiog iawn felly rydym yn cymryd ein hamser er mwyn sicrhau diogelwch y bobl sy’n chwilio a sicrhau nad ydym yn methu unrhyw beth a allai ein harwain ni at Catherine.”

Cafodd  Catherine Gowing, sy’n dod o dde Iwerddon yn wreiddiol, ei gweld y tro diwethaf tua 8.40pm nos Wener, 12 Hydref yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry. Cyn hynny cafodd ei gweld yn gadael ei gwaith ym Milfeddygfa Evans yn Heol Clayton yn yr Wyddgrug tua 7yh nos Wener. Nid oedd wedi dychwelyd i’w gwaith fore dydd Llun.

Mae Clive Sharpe, 46 oed, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

‘Ymchwiliad llawn’


Car Renault Clio Catherine Gowing
Mae’r heddlu’n awyddus iawn i gael mwy o wybodaeth am symudiadau Renault Clio Catherine, rhif cofrestru 00-D-99970, a Volvo S40 du Clive Sharpe, rhif cofrestru AG58 JHE rhwng dydd Gwener 12 Hydref a dydd Llun 15 Hydref.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio DCI Mark Pierce: “Rydw i’n ddiolchgar iawn i aelodau o’r gymuned am eu cymorth ond rwy’n siŵr bod yna bobl eraill allan yna sydd efallai’n teimlo bod ganddynt rywbeth i’w ddweud ond ei fod yn ddibwys.

“Mae angen i ni greu darlun mor gyflawn â phosib, nid yn unig i’n helpu ni i ddod o hyd i Catherine, ond er mwyn gallu darparu Gwasanaeth Erlyn y Goron ag ymchwiliad llawn. Ffoniwch yr heddlu os oes gennych unrhyw wybodaeth.”

Dywedodd DCI Pierce bod teulu Catherine yn dal i fod yng Ngogledd Cymru, a’u bod yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt Teuluol ac  yn cael diweddariadau rheolaidd am ddatblygiadau’r chwiliad.

Fe ddylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y cerbydau hyn, neu sydd ag unrhyw wybodaeth arall, ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.