Wylfa, Ynys Mon
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi croesawu’r newyddion fod cwmni Japaneaidd Hitachi am fabwysiadu’r cynllun i godi gorsafoedd niwclear newydd, gan gynnwys Wylfa ym Môn.

Yn ôl y disgwyl, fe gyhoeddodd Hitachi eu bod nhw am brynu cynllun Horizon a bwrw ymlaen gyda datblygu’r atomfeydd.

Dywedodd Carwyn Jones bod hyn yn  “newyddion da iawn i Gymru a’r DU” ac y gallai greu miloedd o swyddi newydd  a helpu i sicrhau cyflenwad ynni yn y dyfodol.

“Fe fyddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Hitachi er mwyn sicrhau’r buddsoddiad yma i Gymru,” meddai.

Ond mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi pryder am y cynlluniau yn enwedig ar ôl darganfod bod Hitachi wedi cynllunio’r atomfa yn Fukushima yn Japan, a gafodd ei ddifrodi yn sgil daeargryn yn 2011.

Yn ôl Llywodraeth San Steffan, fe fydd y cynllun gwerth £700 miliwn yn creu tua 6,000 o swyddi adeiladu yn ardal Amlwch a 1,000 o swyddi parhaol.

Fe fyddai atomfa newydd debyg yn cael ei chodi yn Oldbury ar draws aber afon Hafren o dde Cymru.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, fe ddylai’r atomfa yn Wylfa fod yn barod erbyn tua 2022, yn debyg i’r cynllun cynharach. Fe ddywedodd hefyd bod y cynllun yn un diogel.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn bod hyn yn “gam mawr ymlaen” ac y byddai’n hwb enfawr i’r economi leol.

Ychwanegodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Bryan Owen: “Mae hyn yn ddatblygiad pwysig sy’n cynrychioli cam mawr ymlaen yn nhermau sefydlu gorsaf bŵer newydd  yn Ynys Môn. Yn bwysicach na hynny, mae’n gam mawr ymlaen tuag at greu swyddi lleol a buddsoddiad yn yr economi, ynghyd a’r buddiannau ar gyfer rhanbarth ehangach Gogledd Cymru.”

Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad. Dywedodd llefarydd ar yr amgylchedd y blaid, Russell George AC ei fod yn bwysig bod ’na gymysgedd o ffynonellau o ynni adnewyddadwy ac y byddai Wylfa yn cyfrannu tuag at hynny.