Mae dwy ysgol Gymraeg wedi cael eu heffeithio gan Gorwynt Sandy sy’n bygwth creu dinistr ledled yr Unol Daleithiau.

Methodd disgyblion Ysgol Dyffryn Teifi, yn Llandysul, Ceredigion hedfan yn ôl i Gymru neithiwr ac mae disgwyl i ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ddychwelyd ddydd Iau.

Dywedodd prifathro Ysgol Bro Myrddin, Dorian Williams: “Mae’r disgyblion wedi llwyddo i deithio o Washington i Efrog Newydd, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod nôl i Gymru ar Dachwedd 1.

“Mae pawb yn hapus ac wedi mwynhau. Does yna fawr o wynt lle maen nhw, a dim glaw. Mae’r gwesty lle maen nhw’n aros yn bell o’r corwynt.

“Mae’r athrawon wrthi’n ail-wampio cynlluniau teithio ac yn ail-drefnu digwyddiadau ar sail cyngor gan yr heddlu.

“Dydw i ddim yn rhagweld y byddan nhw’n cael rhagor o broblemau.”

Mewn datganiad, ychwanegodd dirprwy brifathro’r ysgol, Euryn Madoc-Jones: “Rydyn ni fel staff a disgyblion Bro Myrddin yn mwynhau ein taith yn America.

“Ar hyn o bryd, mae’n gymylog ond dydy’r tywydd ofnadwy sydd wedi cael ei ddarogan heb gyrredd eto. Byddwn ni’n addasu ein cynlluniau i ymateb i nerth y corwynt neu’r storm.

“Bydd diogelwch y plant yn cael y flaenoriaeth fwyaf yn ystod y pedwar diwrnod nesaf. Rydym yn cyfathrebu’n gyson gyda’r ysgol ac rydym yn awyddus bod yr holl rieni a gwarcheidwaid yn hyderu ynom ni wrth i ni roi gofal o’r radd flaenaf i’w meibion a’u merched yn ystod y dyddiau nesaf.”

British Airways

Mae miloedd o Brydeinwyr wedi methu parhau â’u cynlluniau teithio oherwydd y corwynt.

Cafodd holl deithiau British Airways i Efrog Newydd, Newark, Baltimore, Washington DC, Boston a Philadelphia eu gohirio.

Mae disgwyl penderfyniad gan y cwmni am deithiau fory yn ystod yr oriau nesaf.

Cafodd teithiau Virgin Atlantic i arfordir dwyreiniol y wlad eu gohirio hefyd, yn ogystal â theithiau dros nos heno rhwng Efrog Newydd a Heathrow.

Mae teithiau eraill British Airways i’r Unol Daleithiau yn parhau fel arfer.

Roedd yna rybudd gan feysydd awyr i deithwyr y bore yma y dylen nhw gysylltu â’u cwmni teithio am ragor o fanylion am y teithiau sy’n parhau.

Efrog Newydd

Roedd yna bryderon dros nos y gallai’r corwynt effeithio ar fwy nag 800 milltir o dir ar arfordir dwyreiniol y wlad.

Mae disgwyl iddo gyrraedd Efrog Newydd yn ystod y dydd, a gallai gael cryn effaith ar fusnesau a gwasanaethau trafnidiaeth y ddinas.

Dros nos, cyrhaeddodd y corwynt o fewn 470 milltir i’r ddinas.

Mae yna bryderon y gallai fod yn un o’r corwyntoedd gwaethaf yn hanes y wlad.

Cyhoeddwyd dros nos fod yr Unol Daleithiau mewn cyflwr o argyfwng.

Cafodd teithiau awyr eu gohirio, ysgolion a gorsafoedd tanddaearol eu cau a degau o filoedd o bobl eu symud o’u cartrefi, gyda’r gwyntoedd bellach yn cyrraedd cyflymdra o 75 milltir yr awr.

Mae gwasanaethau ariannol Efrog Newydd, gan gynnwys y gyfnewidfa stoc, wedi cau eu hadeiladau am y tro.

Mae Golwg360 yn aros am ymateb gan y ddwy ysgol.