Cefin Roberts, arweinydd y côr
Mae Côr Hŷn Ysgol Glanaethwy wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Côr y Flwyddyn am y tro cyntaf yn eu hanes.

Bydd y côr yn canu yn yr Albert Hall heddiw ar ôl cael clwyed bythefnos yn ôl eu bod wedi cael eu dewis fel un o ddau gôr ychwanegol i fynd i’r rownd olaf heddiw.

Doedd y côr ddim wedi cyrraedd y brig yn eu categori eleni ac felly roedd cael clywed eu bod yn cael cystadlu yn newyddion da.

Roedd 138 o gorau yn cystadlu eleni ond dim ond chwech sydd wedi cael dod i’r brig.

Fe fydd y côr yn canu dwy gân yn Gymraeg, gan gynnwys darn gafodd ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Yr Urdd Eryri eleni, a dwy gân yn Saesneg.

Y beirniaid fydd y gantores theatr cerdd Ruthie Henshall, Cyfarwyddwr Cerdd Corau Ieuenctid Prydain, Greg Beardsell a Chyfarwyddwraig Voicelab yn y Southbank yn Llundain, Mary King.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgol gael llwyddiant yn y gystadleuaeth yma gan for y côr iau wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2002.