Uchel Lys Llundain
Mae penderfyniad Cyngor Dinas Caerdydd i ddynodi tir yn warchodfa natur wedi ei wrthod gan yr Uchel Lys yn Llundain.

Roedd Cyngor Sir Caerdydd wedi penderfynu creu’r warchodfa natur o boptu i Gronfa Ddŵr Llanisien, gan atal datblygiad tai posib yno.

Heddiw penderfynodd uwch farnwr cynllunio wrthod y penderfyniad.

Dywedodd yr Ustus Ouseley fod penderfyniad y Cyngor yn “ganmoladwy” ond yn gwrthddweud penderfyniad cynt i roi blaenoriaeth i ddefnydd y cyhoedd o’r safle.

Roedd y penderfyniad yn fuddugoliaeth i berchennog y gronfa ddŵr, Western Power Distribution, sydd wedi bod yn ceisio adeiladu tai yno ers naw mlynedd.

Clywodd y llys bod y cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i fynediad y cyhoedd a hamdden ar y tir dan Ddeddf Ymddiriedolaeth Iechyd y Cyhoedd 1875.

Ond ym mis Hydref 2009 penderfynodd y cyngor roi blaenoriaeth i gadwraeth natur ar y tir.

Dywedodd yr Ustus Ouseley na allai’r tir gael ei ddynodi’n warchodfa natur a’i ddefnyddio yn ardal hamdden ar yr un pryd.

“Mae penderfyniad y cyngor, er ei fod yn ganmoladwy, yn dangos nad yw’n bosib ei chael hi’r ddwy ffordd,” meddai.