Eryri
Daeth 2,200 o redwyr ynghyd yn Llanberis i gystadlu yn marathon Eryri ar ddiwrnod hydrefol braf.

Dyma’r nifer mwyaf erioed o gystadleuwyr a’r râs yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed.

Rhedwr lleol, Rob Samuel o glwb Eryri Harriers ddaeth yn gyntaf a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.  Croesodd y llinell derfyn mewn 2 awr 36 munud a 45 eiliad.

Emily Gelder o Dulwich Harriers oedd y ferch fuddugol gan orffen y râs mewn  3 awr 6 munud.

Roedd nifer helaeth o’r rhedwyr yn gwisgo rhifau pinc er cof am April Jones sydd wedi bod ar goll o’i chartref ym Machynlleth ers mis bellach.

Mae marathon Eryri wedi cael ei galw’n farathon orau Prydain gan ddarllenwyr y cylchgrawn Runners World ac mae wedi codi miloedd o bunnau i elusennau lleol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.