Amgueddfa Lechi Cymru
Mae Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru,  Dr Dafydd Roberts, wedi olrhain hanes y sefydliad mewn darlith yn Llanberis y prynhawn yma fel rhan o ddathliadau’r amgueddfa yn 40 oed.

Cafodd y gweithdai gwreiddiol eu sefydlu yn y 19 ganrif gan gau yr un pryd a Chwarel Lechi Dinorwig ym mis Awst 1969.

Agorwyd y gweithdai eto ym mis Mai 1972 fel Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru ac ers hynny mae 2.6 miliwn o bobl wedi ymweld â’r safle, sydd bellach yn un o saith safle Amgueddfa Cymru ar hyd a lled y wlad.

“Rydyn ni eisiau i’n 40fed pen-blwydd adlewyrchu a dathlu’r holl weithgarwch mae’r safle hanesyddol yma wedi’i weld yn ystod y degawdau diwetha’,” meddai Dr Roberts “ o’r dyddiau cychwynnol yn y 70au i ymweliadau gan y Tywysog Charles, ac o’r ailddatblygiad mawr ar gost o £2 miliwn ar ddiwedd y 90au i Fynediad Am Ddim yn y mileniwm newydd.”

Mae Arddangosfa Dathlu’r Deugain yn yr Amgueddfa ar agor tan diwedd y flwyddyn.