Mae un o undebau’r ffermwyr wedi cwyno am nad oes neb o fyd amaeth ar fwrdd rheoli corff amgylcheddol newydd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru – yr FUW – yn dweud eu bod yn “siomedig” nad yw’r diwydiant wedi cael lle ymhlith cyfarwyddwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff newydd a fydd yn gyfrifol am bob agwedd ar amgylchedd Cymru.

“Roedden ni wedi gobeithio y byddai’r corff newydd yn gweithio’n adeiladol gyda ffermwyr i gynnig budd amgylcheddol i bawb,” meddai Gavin Williams, cadeirydd pwyllgor senedd a defnydd tir yr undeb.

“Yn anffodus, mae’n ymddangos y bydd yn bendrwm efo academwyr a phenodiadau sector cyhoeddus a llawer rhy ychydig o gynrychiolaeth o’r diwydiant amaeth.”

Gyda phrinder cynrychiolwyr o fyd amaeth, coedwigaeth a’r sector preifat, meddai, fe fyddai gan y corff waith caled o’r dechrau’n “codi pontydd”.

Y cefndir

Ddoe y cafodd enw’r corff newydd ei gyhoeddi; fe fydd ei Brif Weithredwr yn dechrau gweithio’r wythnos nesa’ a’r corff yn dod i rym ym mis Ebrill.

Mae’n disodli Asiantaeth Amgylchedd Cymru, y Cyngor Cefn Gwlad a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.