Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae  142,000 bellach yn gwrando ar Radio Cymru – cynnydd o 4,000 ar yr un amser y llynedd a chynnydd o 11,000 o gymharu â’r chwarter cynt, yn ôl RAJAR.

Ddoe, fe gyhoeddodd BBC Cymru y bydd yn cyflwyno newidiadau i’w wasanaethau newyddion Cymraeg yn y flwyddyn newydd, ar Radio Cymru, S4C ac ar y we.

Ymhlith y newidiadau ar Radio Cymru bydd nifer o enwau cyfarwydd yn newid llefydd.

Mae’r gohebydd profiadol Dewi Llwyd yn symud i gyflwyno Post Prynhawn am bedwar diwrnod bob wythnos gan olynu Gareth Glyn sy’n gadael ar ôl cyflwyno’r rhaglen am 34 mlynedd.

Nia Thomas fydd yn cyflwyno Post Prynhawn ar Ddydd Gwener, a bydd hi’n dychwelyd i’w rôl fel uwch gynhyrchydd yn adran newyddion Radio Cymru, ac yn arwain tîm cynhyrchu’r Post Prynhawn.

Mae Garry Owen yn symud i gyflwyno Taro’r Post tra bod Dylan Jones yn newid lle gydag ef ac yn cyflwyno’r Post Cyntaf, ar y cyd gyda Kate Crockett a Gwenllian Grigg.