Daethpwyd o hyd i gorff dyn 35 oed ym Marina Pwllheli bore ma.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n credu ei fod yn ddyn lleol.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 7.45am ar ôl adroddiadau fod corff yn y dŵr.

Anfonwyd y bad achub lleol i fynd a’r corff i’r lan.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Keith Ellis fod y crwner wedi cael gwybod a’u bod nhw’n ystyried y farwolaeth yn un heb esboniad.

Roedden nhw’n ceisio cysylltu â theulu’r dyn, meddai.