Menna Machreth
Mae grŵp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Mae Menna Machreth, yn wreiddiol o Landdarog, Sir Gaerfyrddin, sydd yn byw yng Nghaernarfon, wedi ei phenodi i swydd, sy’n cael ei chyllido gan y Gymdeithas, er mwyn cydlynu a datblygu’r gynghrair.

Mae nifer o gymunedau eisoes wedi ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymraeg sydd am lobio dros ddyfodol cymunedau Cymraeg ar lefel leol a chenedlaethol, yn debyg i fudiad UEMA yng ngwlad y Basg.

Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, roedd ’na ostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg, ac mae disgwyl y bydd canlyniadau’r cyfrifiad nesaf – a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf – yn dangos dirywiad difrifol pellach.

‘Adfywio’r Gymraeg’

Dywedodd Menna Machreth, cydlynydd newydd y Gynghrair: “Mae sefydlu’r Gynghrair o Gymunedau Cymraeg yn llenwi bwlch yn y drafodaeth am ddyfodol cymunedau iaith Gymraeg a dyma pam fod nifer o gymunedau wedi ymuno’n barod.

“Nid yw’r Gynghrair yn gyfyngedig i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae potensial gan bob cymuned yng Nghymru i fod yn gymuned lle caiff y Gymraeg ei defnyddio fel iaith fyw. Bydd cyrraedd y nod honno yn stori unigryw ym mhob cymuned.

“Pwrpas Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw bod yn fforwm i gymunedau gydweithio a rhannu arferion da er mwyn grymuso eu hunain, a thrwy hynny, adfywio’r Gymraeg hefyd. Cyhoeddwn y bydd chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg yn digwydd o’r gwaelod i fyny ac wrth fentro ac arloesi.”

‘Blaenoriaeth’
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Rwy’n falch ein bod ni, fel mudiad, yn gallu defnyddio’r adnoddau sydd gennym i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ar lawr gwlad gan i ni ddweud llynedd, wrth edrych tuag at ein hanner canmlwyddiant, mai ein cymunedau fyddai ein blaenoriaeth o hyn allan. Rydym yn ddiolchgar am haelioni ein cefnogwyr.”

Bydd cyfarfod cyffredinol cyntaf y Gynghrair Cymunedau Cymraeg yn cael ei gynnal ar 12 Ionawr, 2013.