Clawr Faith, Hope and Love
Mae Llwyd Owen yn gobeithio y bydd rhagor o Gymry di-Gymraeg yn prynu ei lyfr ar ôl sylw yn y wasg Saesneg.

Mae Faith Hope and Love, y cyfieithiad o’i ail nofel Gymraeg, Ffydd Gobaith Cariad, wedi gwerthu’n dda yn America ar ôl broliant yn y cyhoeddiad US Publishers Weekly.

Fe fu’n rhaid i’r cyhoeddwr, Alcemi, sy’n rhan o’r Lolfa, ailargraffu’r nofel rai misoedd yn unig wedi iddi gael ei chyhoeddi.

“Er bod potensial y farchnad i lyfrau Saesneg yn lot mwy,” meddai’r awdur 34 oed, “mae’r gystadleuaeth yn lot mwy, felly mae e’n hwb bach neis clywed eu bod yn ailargraffu mor gyflym. Dy’n ni ddim yn son am ddegau o filoedd o gopiau, dim ond rhai miloedd.

“Ond dyw pobol ddim yn sylweddoli faint sy’n mynd i mewn i greu llyfr. Mae meddwl y byddai e yn diflannu a gwybod mai dim ond ryw 400 o bobol sydd wedi ei ddarllen yn eitha’ digalon.”

Fe gafodd y stori gryn sylw yn y papurau cenedlaethol Cymreig yr wythnos ddiwetha’ ac mae’r awdur yn gobeithio y bydd rhagor o ddarllenwyr di-Gymraeg yn darllen Faith Hope and Love.

“Y gobaith yw y bydd angen argraffiad arall cyn bo hir ar gefn yr hanes yma,” meddai.

“Mae yn gyhoeddusrwydd da. Roedd e yn y Western Mail, y South Wales Echo a Wales Online. Y gobaith y bydd canran bach ohonyn nhw yn mynd mas a phrynu’r llyfr.

“Mae hi mor anodd cael unrhyw fath o sylw, yn enwedig yn dod o wasg mor fach, gyda chyllid marchnata o sero punt. Mae’n rhaid i chi ddibynnu wedyn ar word of mouth a safon… bod y llyfr yn dda a bod pobol yn cytuno ar hynny.”

Roedd hi’n dair blynedd cyn i’w nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, gael ei hailargraffu.

Mi fydd yn cyhoeddi ei bumed nofel yn Gymraeg, Un Ddinas, Dau Fyd yr wythnos nesaf. Gallwch ddarllen dyfyniad ohoni yng nghylchgrawn Golwg.