Mae iechyd a bywydau 2,500 o geffylau mewn peryg yng Nghymru y gaeaf yma, meddai’r RSPCA ac elusennau eraill.

Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw’n rhybuddio y gallai gaeaf caled arall achosi problemau mawr, gyda cheffylau’n cael eu gadael neu berchnogion yn torri’n ôl ar fwyd a chostau milfeddyg.

Mae’r nifer yng Nghymru tua hanner yr holl geffylau sydd mewn peryg trwy Gymru a Lloegr, meddai’r adroddiad, “Ar y Dibyn” ac mae’r RSPCA wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grŵp arbenigol i ystyried hynny.

Yn ôl yr elusennau, fyddan nhw ddim yn gallu ymdopi os bydd llawer rhagor o geffylau’n cael eu gadael yn ddiymgeledd – fe fu cynnydd sylweddol yn ystod y gaeaf diwetha’.

Yn ôl yr RSPCA yng Nghymru, mae gormod o geffylau’n cael eu magu yma ac yn cael eu mewnforio o Iwerddon er nad oes marchnad ar eu cyfer.

Barn yr elusen

“Mae yna argyfwng ceffylau gwirioneddol yng Nghymru bellach,” meddai Claire Lawson, Rheolwraig Allanol yr RSPCA yng Nghymru.

“Gyda’r gaeaf yn dod, r’yn ni’n pryderu am les miloedd o geffylau sy’n cael eu gadael yn anghyfrifol.

“Rhaid i bobol ddechrau sylweddoli mai ychydig o fudd ariannol sydd o fridio cefyllau a merlod, yn enwedig os oes hwsmonaeth wael ac anifeiliaid gyda phroblemau genetig.

“Wnewch chi ddim gwneud ffortiwn; y cyfan fydd gennych yw lot o geffylau ac anifeiliaid ar eich dwylo fydd eisiau bwyd, lloches a gofal ac na fyddwch chi’n gallu eu gwerthu.”