Ni fydd yna unrhyw newid i ffioedd deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru am y pumed flwyddyn yn olynol, cyhoeddwyd heddiw.

Bydd diagnosis yn costio £12 a thriniaeth yn costio £39. Bydd darparu offer yn costio £117.

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart, mai’r gobaith yw sicrhau y gall cymaint â phosibl o bobl fanteisio ar wasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd.

Cafodd lefel bresennol y ffioedd deintyddol yng Nghymru ei phennu ym mis Ebrill 2006 a bydd y ffioedd yn parhau ar y lefel honno ar gyfer 2011/12.

“Trwy beidio â chynyddu ffioedd deintyddol yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol rydym yn parhau i sicrhau y gall pobl Cymru fanteisio ar wasanaethau deintyddol y GIG,” meddai Edwina Hart.

“Mae’r ffioedd yn parhau’n fforddiadwy, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol sylweddol gennym ni yn golygu fod mwy a mwy o bobl yn gallu manteisio ar wasanaethau deintyddol cyffredinol.

“Eto i gyd, gwn ei bod yn anodd o hyd i fanteisio ar wasanaethau deintyddol mewn rhai rhannau o Gymru.

“Mae rhai o’r gwelliannau mwyaf wedi’u cyflawni o fewn yr ardaloedd lle yr arferai fod yn anodd manteisio ar ofal deintyddol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

“Er enghraifft, o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda mae dros 40,000 yn fwy o bobl bellach yn derbyn gofal deintyddol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol nag oedd ym mis Mawrth 2006 ac mae bron i 10,000 yn fwy o bobl yn eu derbyn ym Mhowys.”