Adeilad S4C
Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu rhoi’r cyfrifoldeb dros ariannu S4C yn nwylo’r BBC wedi cyhuddo’r gorfforaeth o “gamarwain pobol”.

Mae’r BBC yn mynnu mai penderfyniad Llywodraeth San Steffan oedd newid trefniadau ariannol S4C, ond mae Cymdeithas yr Iaith yn anghytuno.

Fis Hydref cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015, ac y bydd y rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn nwylo’r BBC o 2013 ymlaen.

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith wrth Golwg 360 fod y “BBC yn camarwain pobl wrth ddweud mai’r Llywodraeth a benderfynodd y byddai’r sianel Gymraeg yn cael ei llyncu gan y BBC”.

“Dywedodd Mark Thompson wrth Aelodau Seneddol mai cytundeb ydoedd rhwng y Llywodraeth yn Llundain â’r BBC,” meddai Menna Machreth, llefarydd y Gymdeithas ar y cyfryngau.

“Mae’r BBC yn honni eu bod nhw wedi achub S4C ond mewn gwirionedd maent wedi cyd-gynllwynio â’r Llywodraeth, a nawr mae annibyniaeth S4C yn y fantol,” meddai.

Protest

Daw sylwadau Menna Machreth ar ôl i 200 o bobl gyfarfod ym Mhrotest ‘Na i Doriadau S4C’ y tu allan i adeilad y BBC ar stryd Priordy Caerfyrddin dros y penwythnos.

Ymysg y siaradwyr yr oedd Dafydd Iwan, yr Aelod Cynulliad Nerys Evans a Ffred Ffransis.

Daw’r protest ar ôl i dros 100 o aelodau’r mudiad ddweud nad ydyn nhw’n mynd i dalu eu trwydded teledu er mwyn protestio yn erbyn y cynlluniau i roi S4C dan adain y BBC.

Ddoe cyhoeddodd grŵp arall, Rhyddid Cymru, eu bod nhw wedi galw am gyfarfod gyda’r Gweinidog Diwylliant Jeremy Hunt er mwyn trafod dyfodol S4C.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad gafodd ei ffurfio yn sgil y bygythiad i ddyfodol S4C y dylai cyfrifoldeb dros y sianel gael ei drosglwyddo i ddwylo’r Cynulliad.