Mae plant a phobl ifanc mewn perygl o wynebu anghydraddoldeb trwy eu hoes o achos tlodi yn ystod eu blynyddoedd cynnar, rhybuddia Comisiynydd Plant Cymru.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi, dywed Keith Towler fod angen edrych ar hawliau plant wrth fynd i’r afael â thlodi.

“Ni ddylai gallu plentyn i gyrraedd ei hawliau a gwireddu’i botensial ddibynnu ar incwm ei deulu,” meddai.

Mae’r Comisiynydd Plant yn lansio ei Strategaeth Tlodi Plant gyntaf heddiw, ac wedi mynegi pryder fod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys camau gweithredu ar gyfer trechu tlodi plant mewn cynllun gweithredu ehangach sy’n ymdrin â phlant ac oedolion.

Mae ei strategaeth yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio ar blant yn ogystal â’u teuluoedd, ac yn pwysleisio fod ganddyn nhw eu hawliau eu hunain yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn.

Bydd y Comisiynydd Plant yn diweddaru ei strategaeth yn flynyddol.