Clawr Pantglas gan Mihangel Morgan
Cofnod difyr am hen aelodau o’i deulu oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel newydd Mihangel Morgan.

Pantglas yw wythfed nofel y darlithydd yn Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Enillodd ei nofel gyntaf, Dirgel Ddyn, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993.

Cafodd ei ysgogi i sgrifennu Pantglas ar ôl darganfod bod ei hynafiaid yn byw yn Llanwddyn, un o’r pentrefi ym Mhowys a gafodd ei boddi ar ddiwedd yr 19eg ganrif i gyflewni dŵr i Lerpwl.

“Dim ond yn ddiweddar y sylweddolais i bod fy hen ddat-cu yn llafurwr a ddaeth i Lanwddyn i weithio ar y gronfa ddŵr,” meddai Mihangel Morgan sy’n byw yn Nhalybont ger Aberystwyth.

“Dyna sut oedd e wedi cyfarfod â fy hen fam-gu ac fe gwmpon nhw mewn cariad a phriodi.”

Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt trigolion pentre dychmygol Pantglas yn y de. Cyn symud mae llawer o ddŵr yn mynd dan bont eu bywydau, cyfrinachau yn cael eu datgelu a thrasiedïau yn dod i’w sgil, meddai’r awdur.

Yn rhan o’i ymchwil, sylwodd Mihangel ar hen lun o Lanwddyn yn llyfr Austerlitz gan W G Sebald a bu’n pori yn amgueddfa Cwm Elan ger Rhaeadr ym Mhowys.

Defnyddiodd ambell enw go iawn i’w bentre dychmygol gan gynnwys Cross Guns ar gyfer tafarn Pantglas.

“Mae un llun yn dangos y siop a’r llythyrdy gyferbyn â thafarn y Cross Guns,” meddai Mihangel Morgan. “Mae yna  fenyw y tu allan ac mae fy ewythr yn taeru mai hi oedd fy hen fam-gu.

“Mae’r bardd R S Thomas yn dweud nad yw’n lico cronfeydd dŵr ond dwi wastad wedi teimlo atynfa. Fedrai ddim meddwl am yr holl ddŵr yna heb feddwl am y pentrefi oddi tano a sut oedd pobl yn byw.”

Mae pentref Pantglas yn llawn cymeriadau gan gynnwys John Pantglas Jones, y gweinidog, Pitar Ŵad, y meddwyn, a Cati, perchennog fusneslyd siop y pentre.

Mae Mihangel Morgan eisoes wedi dechrau ysgrifennu ei nawfed nofel am bentre arall â hanes trychinebus, sef Aberfan yn Ne Cymru, ac wedi dod ar draws un cyd-ddigwyddiad rhyfedd.

“Enw’r ysgol yn Aberfan oedd Pantglas,” meddai. “Do’n i ddim yn cofio hynny pan sgrifennais i’r nofel hon ond mae’n rhaid ei fod wedi ei blannu yn ddwfn yn fy is-ymwybod.”

eLyfrau

Bydd Pantglas yn cael ei lansio ar 3 Mawrth ac yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr.

“Wy’n teimlo bod myfyrwyr yn llai cyfarwydd â darllen,” meddai Mihangel Morgan. “Mae’n rhaid arfer â darllen o oed ifanc.

“Y broblem gyda darllen yw ei fod yn gofyn am ddefnyddio’r dychymyg ac rydyn ni bellach yn byw mewn byd gweledol a dydy pobl ddim yn arfer â gwneud hynny.”

Bydd yn rhaid i nofelau Cymraeg fod ar gael i’w darllen ar ffurf electroneg eLyfrau, meddai Mihangel.

Mae gwasg y Lolfa eisoes wedi dechrau cyhoeddi sawl llyfr ar ffyrf digidol eLyfr.

“Dyna’r ffordd y bydd pobl yn darllen yn y dyfodol,” meddai Mihangel Morgan.