Mae nifer y rhai sydd mewn gwaith wedi gweld y cynnydd mwyaf ers 1971, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.
Roedd nifer y rhai sy’n cael eu cyflogi wedi cynyddu 212,000 i 29.59 miliwn yn y chwarter hyd at fis Awst, er bod mwy o bobl mewn swyddi rhan amser nag erioed o’r blaen.
Roedd diweithdra wedi gostwng 50,000 yn yr un cyfnod i 2.53 miliwn, y nifer isaf ers y gwanwyn. Mae’n golygu bod 7.9% o’r boblogaeth yn ddi-waith.
Yng Nghymru roedd 125,000 yn ddiwaith, gostyngiad o 7,000 i 8.3% o’r boblogaeth.
Mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra hefyd wedi gostwng 4,000 ym mis Medi i 1.57 miliwn, gostyngiad am y trydydd mis yn olynol.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau mae nifer y rhai sy’n cael eu cyflogi mewn swyddi rhan amser wedi cynyddu 125,000 rhwng mis Mawrth a mis Mai, gan gyrraedd 8.13 miliwn.
Mae 1.4 miliwn bellach mewn swyddi rhan amser gan na allen nhw ddod o hyd i waith llawn amser.
Mae diweithdra ymhlith pobl ifainc wedi gostwng 62,000 i 957,000.
‘Carreg filltir’
Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth Mark Hoban ei fod yn “garreg filltir i weld mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o’r blaen. Er gwaetha’r cyfnod economaidd anodd mae’r sector preifat yn parhau i greu swyddi ac mae’n diwygiadau lle yn annog pobl i ddychwelyd i’r gwaith – gyda 170,000 yn llai o bobl ar fudd-daliadau diweithdra nag ym mis Mai 2010.
“Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl ifainc sy’n ddiwaith hefyd i’w groesawu ond mae hyn yn dal i fod yn her,” meddai.