Mae ’na alw ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad cenedlaethol i asbestos mewn ysgolion yn dilyn y penderfyniad i gau ysgol yng Nghaerffili wythnos ddiwethaf.

Roedd Ysgol Uwchradd Cwmcarn, sydd a mwy na 900 o ddisgyblion, wedi cau yn hwyr bnawn dydd Gwener ar ôl i adroddiad strwythurol ddarganfod asbestos yn yr adeilad.

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams dylid cynnal archwiliad gan fod nifer o ysgolion Cymru wedi cael eu hadeiladu rhwng y 1940au a’r 1980au, pan oedd asbestos yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd.

Dywedodd Kirsty Williams ei bod yn bryderus iawn y gallai disgyblion, staff ac athrawon fod wedi dod i gysylltiad ag asbestos, sy’n gallu achosi salwch difrifol.

“Dydw i ddim eisiau  peri pryder, ond pan mae ysgol sydd a 900 o ddisgyblion yn gorfod cau oherwydd bod asbestos wedi cael ei ddarganfod mewn gronynnau yn yr awyr, yna dwi’n credu bod gan bobl ar draws Cymru’r hawl i wybod os yw asbestos yn achosi perygl yn eu hysgol leol.

“Roedd Prydain wedi mewnforio miloedd o dunelli o asbestos yn y ganrif ddiwethaf ac nid ydym yn gwybod faint gafodd ei ddefnyddio yn ein hysgolion neu pa mor ddiogel ydyw yn ein hysgolion.”

‘Cymryd cyfrifoldeb’

Ychwanegodd bod lles y disgyblion, athrawon a staff yr ysgolion yn flaenoriaeth a’i bod am i Lywodraeth Cymru gynnal archwiliad o’r sefyllfa mewn ysgolion ar draws Cymru.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi’r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol a’r ysgolion ond nid oes ganddyn nhw’r adnoddau na’r sgiliau i allu gwneud hyn.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb fel bod ein hathrawon a’n disgyblion yn teimlo’n hyderus eu bod yn dysgu mewn awyrgylch diogel.”

‘Lles disgyblion yn flaenoriaeth’

Yn y cyfamser mae Cyngor Sir Caerffili wedi bod yn cwrdd â swyddogion addysg a llywodraethwyr i geisio dod o hyd i leoliad arall ar gyfer y 900 o ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn, ond dywed y cyngor ei fod yn annhebygol y byddan nhw’n llwyddo i wneud hynny’r wythnos hon.

Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i leoliad newydd ac mae disgyblion blwyddyn 11, 12 ac 13 yn flaenoriaeth, medd y cyngor mewn datganiad.

Mae’r cyngor yn cydnabod bod “y sefyllfa yn anghyfleus ond mae iechyd a lles disgyblion a staff yn flaenoriaeth i ni.”