Nigel Evans
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Ribble Valley wedi gwerthu ei siop bapur  yn Abertawe sydd wedi bod yn eiddo i’r teulu ers 80 mlynedd.

Dywedodd Nigel Evans ei fod wedi bron â llefain wrth iddo yrru o’r siop am y tro olaf. Ef a’i chwaer oedd trydedd genhedlaeth y teulu i redeg y siop.

“Dechreuais i weithio yno pan oeddwn i’n ddeg,” meddai wrth y Lancashire Telegraph.

“Rhedais y lle am ddeng mlynedd ar ôl gadael y brifysgol achos roedd fy nhad yn sâl, ac ar ôl i fi gael fy ethol yn Ribble Valley yn 1991 bues i’n gwneud ambell i shifft yno yn ystod y gwyliau.”

Bu Nigel Evans yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, a bu’n gynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Gorllewin Morgannwg rhwng 1985 a 1991.