Bethan Jenkins
Nid oedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn bresennol yn sesiwn friffio wythnosol Plaid Cymru yn y Cynulliad y bore ma.

Ieuan Wyn Jones a gymrodd y cyfarfod wythnosol gyda’r wasg  a gwrthododd â gwneud sylw am Bethan Jenkins, a gafodd ei hatal o grŵp Plaid Cymru ddoe ar ôl cael ei harestio am yfed a gyrru dros y penwythnos.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones nad oed am wneud sylw tra bod y blaid yn cymryd camau i ddelio gyda’r mater.

Gwrthododd ag ymhelaethu am broses ddisgyblu’r blaid, ac mewn ateb i gwestiwn am ddiwylliant yfed honedig y Cynulliad dywedodd y byddai unrhyw sylw pellach yn amharu ar hawl Bethan Jenkins i gael ei hachos wedi ei glywed mewn modd teg.

‘Hynod ddifrifol’

Ddoe fe gyhoeddodd Plaid Cymru bod Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi cael ei hatal o grŵp y blaid ar ol cael ei harestio yng Nghaerdydd am yfed a gyrru.

Cafodd Bethan Jenkins ei harestio ar ol gyrru o dŷ ffrind i’w chartref yn oriau man bore dydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae gyrru dan ddylanwad alcohol yn rhyfygus ac yn anghyfrifol, ac rydym yn ystyried y digwyddiad hwn yn un hynod o ddifrifol. Mae Bethan Jenkins wedi ei diarddel o’r grwp tra bo’r broses cyfiawnder yn cymryd ei gwrs.”

Mewn datganiad datgelodd Bethan Jenkins ei bod hi wedi bod yn cael cymorth meddygol er mwyn ymdrin ag iselder.

Andrew RT Davies: ‘Dim angen i’r Cynulliad ei disgyblu’

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi dweud mai mater i Blaid Cymru yw disgyblu Bethan Jenkins.

“Mae hon yn stori anodd iawn,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae Bethan wedi cyfeirio at rhai o’r materion yn ei bywyd preifat, ac mae hi wedi sefyll a chydnabod fod y peth wedi digwydd.

“Bydd hi’n derbyn y goblygiadau ac mae’n fater i Bethan a Phlaid Cymru wedyn. Ond dwi’n credu y gallwn ni ddeall y materion sy’n gefndir i’r hyn ddigwyddodd.”

Gwadodd  Andrew RT Davies fod angen i’r Cynulliad weithredu.

“Dwi ddim yn credu fod Bethan wedi bod mewn digwyddiad yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad. Ni ddigwyddodd y peth ar ddiwrnod gwaith y Cynulliad.

“Deallaf fod hwn yn fater preifat yn ymwneud â pharti preifat a bydd yn rhedeg ei gwrs.”

Mewn ymateb i gwestiwn a ddylai hi ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr mai mater i Blaid Cymru yw hynny.