Mae deiseb gyda mwy na 1,300 o enwau’n cael ei chyflwyno i’r Cynulliad heddiw, yn galw am atal datblygu ffermydd gwynt a thyrbinau am gyfnod ac am gynnal refferendwm lleol ar bob tyrbin newydd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r deisebwyr eisiau i bwyllgor o bob plaid ystyried effeithiau tyrbinau gwynt ar iechyd, cymdeithas a’r economi o fewn pellter o 15km.

Y nod fyddai cael ymchwil annibynnol ynglŷn â’r maes er mwyn gosod safonau ar gyfer y diwydiant, a’r rheiny’n “blaenoriaethu gofalu am yr amgylchedd lleol, tir amwynderau, cynefinoedd a natur.”

Yn ôl y ddeiseb, fe ddylai refferendwm gael ei gynnal ymhlith pobol sydd o fewn 5 km i bob safle tyrbin,

Mae’r ddeiseb yn ymwneud â’r math o ddatblygiad cymharol fach sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru – heb effeithio ar y cynlluniau mawr tros 50MW sydd dan adain y Gyfarwyddiaeth Seilwaith Cenedlaethol.

Mae’r rhan fwya’ o’r llofnodion ar y ddeiseb yn dod o ardaloedd ble mae ffermydd gwynt yn bwnc llosg – Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Maldwyn.