Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi croesawu cytundeb hanesyddol i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Roedd David Cameron ac Alex Salmond wedi cwrdd yng Nghaeredin heddiw  i drafod manylion y cytundeb. Fe fydd y refferendwm yn cael ei gynnal yn yr hydref 2014 ac fe fydd pawb dros 16 oed yn cael y cyfle i bleidleisio.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae llofnodi Cytundeb Caeredin yn foment hanesyddol pryd y rhoddwyd i bobl yr Alban y grym i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

“Gall yr Alban yn awr symud ymlaen at ddadl gadarn a chynhwysol am ddyfodol cyfansoddiadol y DG.”

‘Rhoi llais i bobl yr Alban’

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn croesawu’r ffaith y bydd y refferendwm “yn rhoi llais i bobl yr Alban am eu dyfodol, ac y bydd hyn yn cynnwys y rhai 16 ac 17 am y tro cyntaf.”

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o bobl yng Nghymru a’r Alban wedi bod eisiau cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain trwy Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Canfu arolwg barn diweddar fod mwyafrif etholwyr Cymru yn credu mai’r Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod a’r mwyaf o ddylanwad yng Nghymru.

“Bydd yr Alban yn symud ymlaen beth bynnag fydd yn digwydd yn 2014 a mater i ni yw gofalu bod  Cymru yn gwneud hynny hefyd.”