Bethan Jenkins
Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi cael ei hatal o grŵp Plaid Cymru ar ol cael ei harestio yng Nghaerdydd am yfed a gyrru.

Cafodd Bethan Jenkins ei harestio ar ol gyrru o dŷ ffrind i’w chartref yn oriau man bore dydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae gyrru dan ddylanwad alcohol yn rhyfygus ac yn anghyfrifol, ac rydym yn ystyried y digwyddiad hwn yn un hynod o ddifrifol. Mae Bethan Jenkins wedi ei diarddel o’r grwp tra bo’r broses cyfiawnder yn cymryd ei gwrs.”

Mewn datganiad datgelodd Bethan Jenkins ei bod hi wedi bod yn cael cymorth meddygol er mwyn ymdrin ag iselder.

‘Difaru’

Dywedodd Bethan Jenkins yn y datganiad: “Does dim esgus am yr hyn a wnaethais, ac mae’n ddrwg o galon gen i.

“Rwyf yn gwbl ymwybodol o ddifrifoldeb yr hyn a wnaethais, ac i’r perygl i fy hun ac i eraill, o yrru dan ddylanwad alcohol.

“Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn wirioneddol difaru gwneud a byddaf yn llawn derbyn y gosb bydd yn cael ei rhoi i mi.”

Ychwanegodd ei bod wedi bod yn “derbyn help gan weithiwr meddygol proffesiynol a chynghorwr i fynd i’r afael â phroblem iechyd cydnabyddedig” yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Does dim esgus am y digwyddiad, ond rydw i nawr yn sicr fod angen i mi ymdrin â’r broblem fel mater o frys. I wneud hynny, rydw i nawr yn derbyn cefnogaeth feddygol broffesiynol ar gyfer iselder, rhywbeth yr wyf yn dechrau dod i delerau ag ef.

“Byddaf hefyd yn ildio fy rôl fel llefarydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ar Dreftadaeth, yr iaith Gymraeg a Chwaraeon.”

Dywedodd hefyd yr hoffai ymddiheuro i’r heddlu “am ychwanegu at eu gwaith anodd.”

Beirniadu

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Aelod Cynulliad wynebu helynt eleni. Ym mis Mehefin cafodd ei beirniadu am fethu dau gyfarfod tra ar ymweliad swyddogol ag Iwerddon, ac yna cafodd ei beirniadu gan rai am ddweud fod Martin McGuinness o Sinn Fein wedi bod yn “naïf” yn cwrdd â’r Frenhines.