Huw Ynyr Evans
Mae’r canwr Huw Ynyr Evans wedi cipio  Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel.

Cafodd yr ysgoloriaeth, gwerth £4,000,  ei gyflwyno i  Huw Ynys Evans gan Bryn Terfel mewn cyngerdd yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog neithiwr.

Dyma’r ail waith i Huw, sydd yn wreiddiol o Rydymain ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor, gystadlu am yr ysgoloriaeth.

Roedd rhaglen Huw Ynyr yn cynnwys dehongliad o O’r Dwyrain mae’r Golau, Alessandro Acarletti, Pan ddaw’r Nos, Meirion Williams a Gitâr Abruzzese, Francesco Tosi.   Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y canwr uchel ei fri, Rhys Meirion.

Mae Huw ar fin cychwyn ei drydedd flwyddyn yn gwneud gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau’r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant ac wedi perfformio yn gyson gyda Chwmni Theatr Meirion a Chôr Idris.  Mae hefyd yn ddiweddar wedi dechrau canu gyda Chôr Godre’r Aran.

‘Profiad ffantastig’

Dywedodd Huw Ynyr: “Tri chynnig i Gymro maen nhw’n ei ddweud, ond mi wnes i lwyddo i’w gwneud hi mewn dau heno gan mai dyma oedd yr ail waith i mi gystadlu!  Mi oedd yn brofiad ffantastig perfformio heno, ac mi oedd pawb yn fwy na theilwng o’r wobr, felly mi ges i dipyn o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i.  Mi ydw i am gadw’r arian, a disgwyl i weld sut mae’r llais yn datblygu ac yna mewn blynyddoedd i ddod ar ôl iddo setlo, gobeithio y gallaf  fynd i astudio’r llais ymhellach.”

Yn ôl Gavin Ashcroft, un o’r beirniaid, “Mi oedd y safon yn uchel iawn ac mi gawsom wledd i’r llygaid ac i’r glust.  Roedd yn braf gweld cymaint o amrywiaeth ar y llwyfan a’r safon mor uchel – ac yn y diwedd bu’n rhaid edrych ar bwy oedd yn fwy cyson gyda’u safon.  Beth oedd yn arbennig am Huw yw bod yna rhyw annwyldod amdano, ac mae ganddo lais melfedaidd iawn.  Perfformiodd yn wych heno a dwi’n siŵr y bydd yn datblygu i fod yn ganwr anhygoel.”