Mae dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â ffatri cyffuriau £1 miliwn yn Abertawe.

Cipiodd Heddlu De Cymru tua 3,000 o blanhigion canabis yn ystod cyrch yn haf y llynedd yn The 4 Seasons Club, Trallwn.

Dywedodd swyddogion ar y pryd mai dyna’r blanhigfa canabis fwyaf erioed yng Nghymru.

Heddiw cadarnhaodd yr heddlu y bydd dyn lleol 52 oed yn ymddangos o flaen llys yr wythnos nesaf wedi ei gyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B.

Deallir mai cyn-berchennog y clwb, Colin Payne, yw’r dyn.

“Mae Heddlu De Cymru yn Abertawe sydd yn ymchwilio i blanhigfa canabis, ddaethpwyd o hyd iddi ar 24 Awst yn The 4 Seasons Club, Trallwn, wedi cyhuddo dyn lleol 52 oed â throsedd sy’n ymwneud â chynhyrchu canabis,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ar 1 Mawrth, 2011.”

Mae pedwar dyn o dras Fietnamiaidd – 14, 16, 26 a 27 oed – eisoes wedi eu cyhuddo ac wedi ymddangos o flaen llys ynadon.