Alun Davies, Dirprwy Weinidog Addysg Cymru
Fe fydd Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru, Alun Davies, yn trafod dyfodol byrddau cyflogau amaethyddol Cymru a Lloegr mewn cyfarfod gyda Gweinidog Amaeth San Steffan ddydd Llun.

Mae gwahanol undebau wedi datgan pryderon ynghylch dyfodol y byrddau hyn – sy’n gosod cyflogau gweithwyr fferm – wrth i lywodraeth y Glymblaid yn Llundain ystyried eu dileu.

Mewn dadl yn y Senedd yng Nghaerdydd yr wythnos yma, fodd bynnag, addawodd Alun Davies y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau parhad gwaith y Bwrdd yng Nghymru.

Dywedodd y bydd yn apelio ar David Heath, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth a Bwyd yn adran DEFRA, i gydweithio â llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd amodau gwaith gweithwyr amaethyddol yng Nghymru’n dal i gael eu diogelu.

“Hyd yn oed os bydd ein trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain yn methu, fe fydd Llywodraeth Cymru’n parhau i edrych ar bob dewis posibl i sicrhau bod swyddogaethau’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn parhau yng Nghymru,” meddai.

Cefnogi

Mae addewid y Gweinidog wedi cael ei groesawu gan Undeb Amaethyddwyr Cymru.

”Mae’r Undeb bob amser wedi cefnogi’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, ac yn dal i fod yn bryderus na fydd y diwydiant yn gallu denu’r unigolion â sgiliau uchel y mae arno ei angen os nad oes systemau yn eu lle i warchod tâl gweithwyr fferm,” meddai Alun Edwards, cadeirydd pwyllgor addysg a hyfforddiant amaethyddol yr undeb.

“Mae’r undeb yn credu’n gryf y gall rôl y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol wrth osod isafswm cyfraddau tâl adlewyrchu’r angen ar i weithwyr amaethyddol fod yn hyblyg yn eu trefniadau gwaith dros gyfnodau prysur, tywydd braf ac oriau anghymdeithasol nad yw’n dod o dan ddeddfau cyflogaeth cyffredinol.

“Mae’r hinsawdd economaidd o fewn y diwydiant amaeth yn ei wneud yn ddewis llai deniadol i bobl ifanc ac mae gwobrwyo sgiliau, cymwysterau a lefelau o gyflogaeth yn ffordd hanfodol o berswadio pobl o safon i aros neu ddod i mewn i’r diwydiant.”