Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cael cyfraniad o $2 filiwn gan Sefydliad Getty, ymddiriedolaeth elusennol teulu’r biliwnydd olew J Paul Getty.

Fe fydd y cyfraniad yn cefnogi rhaglen British Firsts y cwmni opera i lwyfannu cyfres o operâu cyfoes dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn galluogi i weithiau pwysig gael eu perfformio am y tro cyntaf ym Mhrydain.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog sydd â chyfrifoleb dros Drettadaeth yn Llywodraeth Cymru:

“Mae’r cyfraniad yn newyddion rhagorol i Opera Cenedlaethol Cymru, a dw i wrth fy modd gyda haelioni Sefydliad Getty, sy’n golygu y gall y cwmni Opera barhau i adeiladu ar ei enw da.

“Mae Opera Cenedlaethol Cymru’n rhoi Cymru o ddifrif ar y map diwylliannol ac fe fydd y rhaglen yma, a’r cyllid sy’n ei gwneud hi’n bosibl, yn rhoi hwb sylweddol i Gymru ar lwyfan y byd.”