Aethpwyd a dynes 50 oed i’r ysbyty heddiw ar ôl iddi gael ei hachub o gronfa ddŵr ym Mhowys.

Roedd y ddynes wedi mynd i drafferthion yng nghronfa ddŵr Caban Coch ger canolfan ymwelwyr Cwm Elan, ger Rhaeadr Gwy, tua 9am.

Roedd hi’n dioddef o hypothermia ar ôl treulio 40 munud yn y dŵr, meddai Gwasanaeth Ambiwlans Canolbarth Cymru.

Aethpwyd a hi i ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Cafodd ei hachub o’r dŵr cyn i fadau achub o Lanidloes a’r Gelli Gandryll gyrraedd y gronfa.