Alwen Eluned Jones
Mae dynes 24 oed o Lanllyfni yng Ngwynedd wedi cael ei charcharu am oes heddiw am lofruddio dynes 31 oed.

Fe fydd Alwen Jones, sy’n fam i ddau, yn gorfod treulio o leiaf 18 mlynedd dan glo.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Emma Jones wedi cael ei thrywanu ar ôl ffrae ger fflatiau Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes ym mis Rhagfyr.

Roedd Alwen Jones  wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad. Roedd hi hefyd wedi pledio’n ddieuog i ddynladdiad, gan ddweud nad oedd wedi bwriadu trywanu Emma Jones.

Fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon bod Alwen Jones yn euog o lofruddiaeth.

Wrth ei dedfrydu heddiw, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith-Williams: “Mae’n amlwg i mi y byddai unrhyw un oedd wedi dod ar eich traws y noson honno wedi bod mewn perygl.”

‘Poen’ y  teulu

Mewn datganiad yn dilyn dedfrydu Alwen Jones, dywedodd teulu Emma Jones

“Diolchwn i’r heddlu a thîm yr erlyniad am eu gwaith diflino i sicrhau bod llofrudd ein merch yn derbyn cyfiawnder.

“Roedd Emma yn ferch a chwaer brydferth, garedig a chariadus ac yn fam annwyl i Llŷr bach.

“Mae’n anodd i unrhyw un ddeall y boen yr ydan ni wedi’i ddioddef ond mae Emma yn byw yn ein hatgofion .

“Rydan ni’n byw ein bywydau o un dydd i’r llall ac wedi gwneud addewid i Emma y byddwn yn gwneud ein gorau i drio cario mlaen.”

Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu’r dyfarniad

Dywedodd y Ditectif Rhingyll Dewi Harding Jones o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn croesawu dyfarniad y rheithgor.

“Mae Alwen Jones wedi’i chael yn euog o lofruddiaeth, a bydd yn rhaid iddi fyw â hynna am weddill ei hoes.

“Mae’r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd a gyflawnodd trwy arfogi ei hun gyda chyllell gyda’r bwriad o drywanu.

“Mae ein cydymdeimlad gyda theulu Emma Jones sydd wedi cynnal eu hunain mewn modd urddasol drwy gydol y cyfnod anodd hwn.”