al
Llys y Goron Caernarfon
Fe fydd Alwen Eluned Jones o Ddyffryn Nantlle’n cael ei dedfrydu heddiw ar ôl ei chael yn euog o lofruddio gwraig ifanc arall.

Mae’r fam 24 oed eisoes wedi cael rhybudd ei bod yn wynebu dedfryd o garchar am oes.

Roedd hi wedi pledio’n ddieuog i lofruddio Emma Jones, 31 oed, ar ôl ffrae ym Mhenygroes ym mis Rhagfyr.

Roedd hi hefyd wedi pledio’n ddieuog i ddynladdiad, gan ddweud nad oedd wedi bwriadu trywanu Emma Jones.

Fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon bod Alwen Jones yn euog o lofruddiaeth.