Cofrestrfa Prifysgol Cymru
Mae cylchgrawn Golwg yn dateglu heddiw fod holl gyfarwyddwyr annibynnol un o gwmnïau Prifysgol Cymru wedi ymddiswyddo.

Mae’r cylchgrawn wedi cael gafael ar gopi o lythyr gan chwe chyfarwyddwr cwmni Awen yn dweud eu bod yn ymddiswyddo am “ddiffyg cefnogaeth ariannol”.

Dan arweiniad y Cadeirydd, John Elfed Jones, maen nhw’n cwyno nad oedd y Brifysgol ar ei newydd wedd – dan arweiniad Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, Medwin Hughes – wedi cadw at addewidion i’r cwmni sy’n ceisio creu cyfleoedd busnes i’r Brifysgol.

Gwadu’r honiadau y mae’r Brifysgol gan ddweud fod y cwmni wedi methu â chyflawni ei amcanion ac wedi gwneud colledion ariannol.

Y stori’n llawn a dyfyniadau o’r llythyr yn Golwg heddiw.