Mae Swyddfa Cymru wedi herio hawl y Cynulliad i basio’r Bil Iaith yr wythnos ddiwetha’ ac mae dadl yn datblygu rhwng y ddau gorff.

Roedd y Bil yn dweud bod rhaid i’r Cynulliad ddelio’n gyfartal â’r Gymraeg a’r Saesneg.

Ond, yn ôl Swyddfa Cymru, does gan y Cynulliad ddim hawl i drafod deddfau sy’n effeithio ar y Saesneg.

Mae’r mater wedi ei anfon at y Twrnai Cyffredinol ar gyfer ei ddyfarniad ef.

Dadl

Mae Comisiwn y Cynulliad – y bwrdd bach sy’n rheoli busnes y corff – yn gwrthod yr honiad ac, yn ôl ei brif gynghorydd cyfreithiol, Keith Bush, fe ddylai’r Bil barhau ar ei siwrnai yn ôl y bwriad gwreiddiol.

Dadl y Comisiwn yw mai mesur ynghylch y Gymraeg yw’r Bil mewn gwirionedd ac mai yn sgil hynny y mae’n trafod y Saesneg.

Dyma’r ail dro eisoes i Swyddfa Cymru herio un o filiau’r Cynulliad – mae’r llys goruchaf ar hyn o bryd yn ystyried a yw bil i roi hawliau creu is-ddeddfau i lywodraeth leol hefyd yn mynd y tu hwnt i rymoedd y Cynulliad.