Emma Jones
Mae dynes 24 oed wedi ei chael yn euog  o lofruddio dynes 31 oed ym Mhenygroes.

Roedd  Alwen Eluned Jones o Ddyffryn Nantlle wedi gwadu llofruddio Emma Jones ger fflatiau Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes bythefnos cyn y Nadolig y llynedd. Roedd Alwen Jones hefyd wedi pledio’n ddi-euog i gyhuddiad o ddyn-laddiad.

Cafodd Emma Jones ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ger ei chartref ar 10 Rhagfyr ond bu farw cyn cyrraedd yr ysbyty.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon roedd  Alwen Jones  wedi cyfaddef ei bod hi’n ddig cyn iddi drywanu Emma Jones i farwolaeth, ond dywedodd nad oedd hi wedi bwriadu ei thrywanu.

Mae disgwyl i Alwen Jones gael ei dedfrydu’n ddiweddarach.