Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond heddiw bod y cynlluniau arfaethedig i uno BAE Systems ac EADS wedi methu am ei fod yn “rhy anodd” i gael y tair llywodraeth fu’n rhan o’r trafodaethau i gytuno ar delerau.

Ond roedd Philip Hammond wedi gwrthod ateb cwestiynau yn gofyn a oedd Ffrainc neu’r Almaen i’w beio am fethiant y cytundeb a fyddai wedi bod yn werth £28 biliwn.

Dywedodd bod BAE Systems, sy’n cyflogi 600 o weithwyr yng Nglasgoed, Sir Fynwy, yn wynebu “heriau” ac fe rybuddiodd bod angen i’r cwmni “ddatblygu”.

Roedd  bwrdd y ddau grŵp wedi cwrdd ddoe yn dilyn adroddiadau bod llywodraeth Ffrainc, yr Almaen a Phrydain yn methu dod i gytundeb ynglŷn â faint o gyfran y dylai’r llywodraethau ei gael yn y cwmni unedig.

Roedd gan BAE ac EADS tan 5yh heddiw i gyhoeddi manylion y cytundeb neu ofyn am estyniad. Ond fe benderfynodd y ddau gwmni heddiw i sgrapio’r cynlluniau.

Mae EADS, sy’n berchen Airbus, yn cyflogi 6,000 o weithwyr yn ei ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint.