Sachau cocos
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod argymhelliad i roi rhagor o iawndal i gasglwyr cocos Penclawdd pan fydd eu bywoliaeth yn cael ei ddinistrio.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad yn dweud y dylai’r casglwyr gael yr un math o gymorth ag unrhyw ddiwydiant arall, pan fydd cyflogwr mawr yn cau.

Roedd 2,200 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gofyn am ymchwiliad cyhoeddus i’r trafferthion sydd wedi taro’r diwydiant tros y deng mlynedd diwetha’.

Maen nhw wedi wynebu colledion mawr yn y gwelyau cocos bob blwyddyn ers 2002 a’r problemau wedi gwaethygu ers i garthion gael eu gollwng i Fae Porth Tywyn yn 2005.

Er bod y Pwyllgor wedi gwrthod y syniad o ymchwiliad, roedden nhw wedi argymell rhoi gwell iawndal i’r casglwyr.

Fe ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, William Powell, fod y Llywodraeth wedi derbyn pump argymhelliad a fyddai’n lleihau’r beryg o ddifrod gan garthion a gwell dealltwriaeth o’r broblem.