Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi croesawu canlyniadau arolwg barn newydd sy’n dangos fod 58% o bobl yn credu mai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ddylai fod â’r llais mwyaf yn y modd mae’r wlad yn cael ei rhedeg.
Cafodd yr arolwg barn ei gynnal gan ITV Cymru.
Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: “Mae’n galonogol iawn gweld sut y mae agweddau tuag at ddatganoli wedi newid mewn cenhedlaeth yn unig ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Cymru yn lle mwy hyderus nac yr oedd ddiwedd y 1990au.
“Gwelsom hyn yn y gefnogaeth syfrdanol i bwerau deddfu yn y refferendwm y llynedd, a gwelsom ganlyniadau arolwg barn ITV Cymru, gyda mwy na dwbl nifer y bobl yn dweud mai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ddylai fod â’r prif lais yn sut y rhedir y wlad o gymharu â San Steffan.
“Mae pobl yn sylweddoli y gallwn ganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Mewn gwirionedd, mae agweddau cyhoeddus yng Nghymru yn fwy blaengar na rhai’r Llywodraeth Lafur pan ddaw’n fater o fod eisiau datganoli mwy o bwerau o San Steffan.
“Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi’r hyder newydd hwn.”