Cyn arweinydd Cyngor Sir Benfro yw Cadeirydd newydd y gymdeithas sy’n cynnal y Sioe Fawr yn Llanelweddi.

Fe gafodd y ffermwr 49 oed o ardal Eglwyswrw ei ddewis yn Gadeirydd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Cymru.

Mae’n cymryd lle’r arwerthwr Dai Lewis o Landysul a fu’n Gadeirydd am chwe blynedd ac mae’r swydd yn cael ei hystyried yn un bwysig o ran sicrhau lle’r Gymraeg yn y Sioe.

Mae John Davies yn dal nifer o swyddi cyhoeddus ac, ar un adeg, roedd wedi ystyried sefyll i fod yn Gomisiynydd Heddlu ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Fe ymddeolodd o fod yn arweinydd Cyngor Sir Benfro adeg yr etholiadau diwetha’ ar ôl gorfod amddiffyn y cyngor rhag beirniadaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n aelod o Awdurdod S4C ac roedd yn arfer arwain Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru.