Darren Millar - 'achos pryder'
Mae pwyllgor o Aelodau Cynulliad yn ystyried cynnal ymchwiliad i gorff cyhoeddus a gafodd ei gondemnio’n hallt am gam-reoli a chamddefnydd o arian.
Roedd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru am y bwrdd draenio sy’n gyfrifol am Wastadeddau Gwent yn achos pryder, meddai Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Roedd y Bwrdd – Bwrdd Draenio Gwyn-llŵg a Chil-y-coed – wedi methu â chadw at y safonau uchel oedd i’w disgwyl gan gorff cyhoeddus, meddai.
“Er bod Swyddfa Archwilio Cymru’n cydnabod bod ymdrechion ar waith i adfer hyder y cyhoedd, mae’n hanfodol nad yw’r methiannau yn digwydd mewn rhannau eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.”
Yr adroddiad
Roedd yr adroddiad am y Bwrdd yn un o’r rhai mwya’ hallt sydd wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar gan y Swyddfa Archwilio.
Roedd y feirniadaeth yn cynnwys:
- Trefniadau llywodraethu annigonol a diffyg pwrpas clir a chyfeiriad strategol.
- Trwy fethu â chadw at reolau, roedd wedi gweithredu’n groes i’r gyfraith.
- Roedd y Bwrdd wedi defnyddio arian trethdalwyr at bwrpasau anghywir, gan gynnwys mynd ar ymweliadau diangen.
- Roedd cyn-Glerc y Bwrdd wedi bod yn gwneud argymhellion am ei gyflog ei hun.