Mae cwmni ynni E.On wedi cael ei gyhuddo o geisio “dychryn” pobl ar ôl  rhybuddio y gallai eu prisiau gynyddu i gwsmeriaid yng Nghymru os ydyn nhw’n cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Mae E.On wedi beirniadu cynlluniau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws  a allai orfodi cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau fel ynni a thrafnidiaeth i ddarparu   gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau E.On.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  “Mae’r cwmni yn ceisio dychryn a drysu pobl; mae nifer o gwmnïau ynni eisoes yn darparu rhywfaint o filiau yn Gymraeg. Wrth gwrs, cafodd yr un ddadl ei defnyddio yn erbyn arwyddion ffyrdd Cymraeg, ac mae hi’n amlwg yn un gwbl ffals.

“Mae cyfathrebu yn Gymraeg yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaeth yng Nghymru. Cred y Gymdeithas yw bod gan bawb, o ba bynnag cefndir, yr hawl i fyw eu bywyd
trwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach mae gan y Gymraeg statws swyddogol, yn anffodus mae’n ymddangos bod rhai cwmnïau anwybodus ddim yn sylweddoli hynny eto – mae’n amser iddynt gadw mewn cysylltiad gyda’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru.”

‘Biliau uwch’

Daeth sylwadau E.On mewn llythyr at wleidyddion  ac mae’n dweud y bydd o gost o ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn cael ei adlewyrchu mewn biliau uwch i gwsmeriaid.. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ac yn ystyried yr ymatebion cyn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Llefarydd Plaid Cymru ar Ynni bod cwmniau ynni eraill eisoes yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, ac yn llwyddo i wneud hynny heb godi eu prisiau.

“Mae cwmnïau gwasanaethau yn cynhyrchu biliau mewn mwy nag un iaith mewn rhannau helaeth o’r byd.

“Mae’n bwysig fod pobl yn gallu derbyn gwybodaeth dryloyw am bris yr ynni maent yn ei ddefnyddio, gallu rhoi gwybod am broblemau mewn ffordd glir a derbyn gwybodaeth diogelwch pwysig megis rhifau ffôn i’w galw pan fydd toriad pŵer.

“Mewn nifer o rannau o Gymru, yn enwedig y rhannau hynny sydd yn dioddef fwyaf o dlodi tanwydd, Cymraeg yw iaith gyntaf y gymuned.

“Yn ogystal, mae nifer o’u cystadleuwyr eisoes yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, ac yn llwyddo i wneud hynny heb godi eu prisiau.  Mae Scottish Power wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd heb broblem.  Yn wir mae nifer yn gweld y gallu i ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg yn ffordd o gynnig mantais gystadleuol iddynt.  Os gall cwmnïau eraill ei wneud, yna gall E.ON wneud hefyd.”