Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams wedi rhybuddio y gallai cynlluniau’r Canghellor George Osborne i dorri £10 biliwn o gyllideb y wladwriaeth les olygu mwy o ddiweithdra, digartrefedd a thlodi.

Galwodd hefyd am i fudd-daliadau gael eu datganoli i Gymru yn sgil cau ffatri Remploy, gan nad yw’n teimlo bod dyfodol pobl anabl yng Nghymru’n ddiogel yn nwylo San Steffan.

Dywedodd Hywel Williams: “Dan lywodraethau Llafur a Cheidwadol/Rhyddfrydol, mae polisi cymdeithasol wedi ei anelu’n gyson at ddatgymalu’r egwyddor o gydraddoldeb triniaeth a chydraddoldeb parch.”

‘Sbwnjwrs a chrafwyr’

“Mae rheolau annheg wedi eu cyflwyno sy’n cyfyngu ar yr hawl i gymorth rhesymol. Mae pobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu trin gydag amheuaeth a’u labelu yn sbwnjwrs a chrafwyr.

“Mae’r wladwriaeth les yn amddiffyn unigolion sy’n methu cefnogi eu hunain a’u teuluoedd am resymau sy’n amrywio o anabledd i ddiweithdra.”

Beirniadodd y ffaith fod rhaid i bobl anabl gael profion er mwyn profi eu bod nhw’n methu gweithio, gan nad yw’r profion, meddai, “yn profi’r fath beth”.

“Mae pobl ddi-waith yn cael eu cosbi am beidio dychwelyd i’r gwaith pan nad oes swyddi ar gael. Mae’r lleiafrif bychan sy’n cymryd mantais o’r system yn rhoi enw drwg i’r mwyafrif helaeth.

“Rhagrith llwyr yw llywodraeth yn beirniadu pobl am fod ag ofn gwaith tra’n gwneud dim i daclo diweithdra. Mae’n amlwg o’r toriad treth i filiwnyddion a’i ddiffyg parodrwydd i gyflwyno treth plasty mai ei flaenoriaeth yw amddiffyn y breintiedig.”