Mae cyllid prosiect Cymunedau’n Gyntaf, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2001, yn gostwng o £45m i £40m ac mae 13 o bartneriaethau yn dod i ben am nad yw’r ardaloedd ble maen nhw wedi eu lleoli yn cael eu hystyried ymhlith y rhai tlotaf yng Nghymru bellach.

Mae nifer o’r rhai sy’n dod i ben yn y gogledd a’r gorllewin, gan gynnwys Blaenau Dyffryn Aman, Tregaron, Penparcau, De Pwllheli, ac Amlwch.

Nod Cymunedau’n Gyntaf yw lleihau’r bwlch mewn addysg, economi ac iechyd rhwng ardaloedd tlotaf Cymru a’r rhai mwy cyfoethog gyda’r gymuned ei hun yn creu syniadau am brosiectau.

Yn ôl adroddiad diweddar mae dwy o bob tair partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yn gweithio’n dda ond mae “pryderon sylweddol” am rai partneriaethau.