Dr Emyr Roberts
Mae yna groeso gofalus wedi’i roi i benodiad Cymro Cymraeg yn bennaeth ar y corff amgylcheddol newydd yng Nghymru.

Roedd beirniadu mawr wedi bod ar ôl i bennaeth busnes o Loegr, Peter Matthews, gael ei ddewis yn Gadeirydd ond yn awr, mae’r gwas sifil, Dr Emyr Roberts, wedi ei benodi i’r brif swydd.

Mae’n dod o Benllech, Ynys Môn, ac wedi bod yn swyddog gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac ar hyn o bryd mae’n Uwch Gyfarwyddwr Addysg a Sgiliau o fewn y Llywodraeth.

Roedd wedi cynnig am y brif swydd yn y gwasanaeth sifil yng Nghymru hefyd ond fe gafodd honno ei rhoi i Derek Jones.

Croesawu, ond aros i weld

“Dw i’n croesawu’r penodiad a’r ffaith ei fod yn Gymro,” meddai’r amgylcheddwr, Iolo ap Gwynn. “Ond mi fydd rhaid aros i weld sut y mae’n gwneud.

“Y dasg fawr fydd sicrhau cyfathrebu da efo pobol a chymunedau. Mae’n rhaid i unrhyw waith amgylcheddol ddechrau ar lefel leol.”

Mae Emyr Roberts ei hun wedi dweud mai ei brif nod fydd sicrhau bod adnoddau amgylchedd Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio.

Arbed arian

Fe fydd y corff newydd, sy’n ddienw hyd yn hyn ond yn dechrau ar ei waith y flwyddyn nesa’, yn tynnu at ei gilydd yr Asiantaeth Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Y nod yw cael mwy o gydweithio ar draws y maes amgylcheddol ac, yn ôl y Llywodraeth, fe fydd yr uno’n arbed £158 miliwn tros ddeng mlynedd.